top of page
Search

Updated: Nov 21


ree

Dyma restr yn nhrefn yr wyddor o linellau cerddi Beirdd y Tywysogion i chi gael ei lawrlwytho os gall fod yn ddefnyddiol i chi.


Fe'i defnyddiaf i adnabod cerddi mewn llawysgrifau - yn enwedig drylliau o gerddi dienw a dideitl.


Defnyddiais destunau orgraff ddiweddar Cyfres Beirdd y Tywysogion i lunio'r rhestr.


Ceir gwybodaeth am y cerddi a'r beirdd yn saith cyfrol Cyfres Beirdd y Tywysogion (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991–1996).





The Poets of the Princes (c.1100–c.1282/3)


Here is a alphabetically arranged list of lines from the poems of the Poets of the Princes, for you to download if it might be of use.


I find it useful to identify poems in manuscripts - especially fragments of untitled poems, quoted without the poet's name.


I've used the modern-spelling versions of the poems from the Poets of the Princes Series.


Information about the poems and the poets can be found in the seven volumes of the Poets of the Princes Series (University of Wales Press, 1991–1996).




 
 
 


Rhwng 1604 ac 1607 lluniodd Thomas Wiliems (c.1545–1622/3), y ffisigwr a’r hynafiaethydd o Drefriw yn Nyffryn Conwy, eiriadur Lladin–Cymraeg a’i gofnodi mewn tri llyfr: llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Peniarth 228, cyfrolau i, ii a iii. Mae tua 1,470 tudalen yn y geiriadur cyfan, a thros 36,000 o gofnodion: mae’n eiriadur sylweddol a bu Thomas Wiliems yn casglu deunydd ar ei gyfer am dros 30 mlynedd.


ree

Ni chyhoeddwyd geiriadur Thomas Wiliems erioed, ac yn dilyn ei farwolaeth aeth ei lawysgrif yn y pen draw i feddiant Dr John Davies, Mallwyd. Golygodd Davies y gwaith yn chwyrn –  gan ei gwtogi’n sylweddol a safoni’r iaith – a’i ddefnyddio’n sail i’w Dictionarium Duplex, ei eiriadur Cymraeg–Lladin a Lladin–Cymraeg a gyhoeddwyd yn Llundain yn 1632.


Argraffwyd nifer fawr o gopïau o’r Dictionarium Duplex, ac i bob pwrpas dyma’r gwaith a gydnabuwyd yn sail i eiriadura yn y Gymraeg am dros ddwy ganrif. Esgeuluswyd gwaith Thomas Wiliems am ddau brif reswm: (i.) oherwydd credu bod popeth o werth ynddo wedi ei gynnwys yng ngeiriadur print John Davies; a (ii.) oherwydd fod geiriadur Thomas Wiliems mewn llawysgrif, ac mae ei lawysgrifen braidd yn anniben ac weithiau’n anodd i’w darllen (yn enwedig i’r sawl nad yw wedi arfer â hi).


ree

Mae’n rhaid cael gwell dealltwriaeth o gynnwys geiriadur Thomas Wiliems er mwyn cael darlun gwell o wreiddiau geiriadura yn y Gymraeg, ac er mwyn ein galluogi i iawn gloriannu cyfraniadau Thomas Wiliems a Dr John Davies, heb sôn am berthynas eu gwaith â geiriadurwyr cynnar eraill, fel Henry Salesbury (y mae ei eiriadur yntau’n parhau mewn llawysgrif yn unig).


Y dull arferol o lunio geiriadur  yn yr 16g./17g. ar gyfer ei gyhoeddi oedd cymryd geiriadur print llwyddiannus a’i addasu. Yn ogystal ag arbed amser a chost cysodi, rhoddai’r dull hwn fframwaith dda ar gyfer y geiriadurwr. Ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg, ac yntau bron yn drigain oed, penderfynodd Thomas Wiliems ddefnyddio Dictionarium Linguae Latinae et Anglicanae (1587) yn sail, geiriadur sylweddol a hynod boblogaidd Lladin–Saesneg yr argraffydd Thomas Thomas (‘Thomasius’) o Brifysgol Caer-grawnt. Cyfieithodd Thomas Wiliems y cofnodion Saesneg i’r Gymraeg, ac yn ogystal ag ychwanegu cofnodion newydd, ychwanegodd nifer fawr o eiriau at y diffiniadau – geiriau safonol; geiriau â naws mwy llafar, gan gynnwys, er enghraifft, iaith plant; benthyciadau amlwg o’r Saesneg; a geiriau canoloesol. Ychwanegodd hefyd wybodaeth am bynciau a oedd o ddiddordeb arbennig i’r darllenydd Cymraeg a hefyd wybodaeth am bynciau fel meddyginiaeth a llysiau meddyginiaethol a’u defnydd, pynciau a oedd o ddiddordeb arbennig iddo ef fel meddyg proffesiynol, fel yn achos y cofnod hwn ar Hydromeli.


ree

Nid oes amheuaeth am werth trawsysgrifio a golygu’r cyfan o eiriadur Thomas Wiliems: nid oedd yn gorddweud pan ddisgrifiodd ei waith fel Trysawr ni bu ’rioet ei gyphelyp ynghymru o’r blaen  (‘Trysorfa na fu ei debyg yng Nghymru erioed o’r blaen’). Mae’n llawn gwybodaeth ddiddorol, ac mae’n taflu goleuni pwysig hefyd ar yr iaith Gymraeg ar droad y 17g. a thafodiaith Dyffryn Conwy yn benodol.

 

Yn groes i’r disgwyl, ni chychwynnais gyda’r llythyren A, yn bennaf gan fod Thomas Wiliems a Thomas Thomas yn amlwg yn ceisio sefydlu eu dull gweithio yn yr adran hon, ac mae dipyn o anghysondeb ynddi (yn enwedig o ran eu defnydd o fyrfoddau ac ati). Felly cychwynnais gyda B, H a T – un llythyren o bob blwyddyn y bu Thomas Wiliems wrth y gwaith, er mwyn cael syniad o ddull gweithio’r ddau ohonynt.


Gall y darllenydd sydd am weld  cofnodion gwreiddiol Thomas Wiliems edrych ar y delweddau ar lein yn Nghasgliad Digidol Peniarth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan ddefnyddio’r cyfeiriadau unigryw a roddir ar gyfer pob cofnod yn y golygiad. Er enghraifft, cyfeiriad unigryw Habitatio yw [ii78r1], sef  Peniarth 228, cyfrol ii, ffolio 78 recto, cofnod cyntaf ar y ddalen.



Adborth

Byddwn yn croesawu unrhyw adborth am y gwaith, neu gywiriadau – a hefyd unrhyw gyngor ar sut i’w wneud yn fwy hygyrch yn y pen draw, ac yn ddefnyddiol i ymchwilwyr eraill. Ar hyn o bryd mae’r testun mewn ffeiliau Word, gan ddefnyddio nodau fformat arbennig, fel bod modd trosi’r cyfan yn weddol rhwydd i fformat gwahanol.


Darllen pellach

Ceir esboniad pellach gwaith gennyf yn ‘Casglfa Ddirfawr o Eiriau Cymraeg, Henion a Newyddion’: Geiriadur Thomas Wiliems, Trefriw (c.1545–1622/3) yn LlGC Peniarth 228’ a fydd yn ymddangos yn Llên Cymru (2024). Yno ceir cyfeiriadau at drafodaethau pwysig eraill ar eiriadur Thomas Wiliems, yn enwedig gan J. E. Caerwyn Williams, mewn erthygl ryfeddol yn Studia Celtica, 16/17 (1981/2).


H: The first serving of Thomas Wiliems’s Latin–Welsh Dictionary (1604–7)




Between 1604 and 1607 Thomas Wiliems (c.1545–1622/3), the physician and antiquarian from Trefriw in the Conwy Valley, compiled a Latin–Welsh dictionary and wrote it down in three books: National Library of Wales Peniarth MS 228, volumes i, ii and iii. There are around 1,470 pages in the entire dictionary, and over 36,000 entries: it is a substantial dictionary and Wiliems had been collecting material for it for over 30 years.


ree

Thomas Wiliems dictionary was never published, and following his death his manuscript eventually came  into the possession of Dr John Davies of Mallwyd. Davies edited the work severely – shortening its entries and standardizing the language – and used it as the basis for his Dictionarium Duplex, his Welsh–Latin and Latin–Welsh dictionary, published in London in 1632.


A large number of copies of the Dictionarium Duplex were printed, and to all intents and purposes this was the work that was recognized as the basis of Welsh lexicography for over two centuries. The work of Thomas Wiliems was neglected for two main reasons: (i.) because it was believed that everything of value in it had been  included in John Davies’s printed dictionary; and (ii.) because Thomas Wiliems’s dictionary is available only in manuscript, and his handwriting is rather untidy and difficult to read at times (especially for the reader who is not familiar with it).


ree

We must have a better understanding of the contents of Thomas Wiliems’s dictionary in order to get a better picture of the origins of Welsh lexicography, and to enable us to properly evaluate the contributions of Thomas Wiliems and Dr John Davies, not to mention the relationship of their work to other early lexicographers, like Henry Salesbury (whose work also survives only in manuscript).


The usual method of preparing a dictionary for publication in the 16th/17th century was to take an already successful printed dictionary and adapt it. As well as saving money and time during type-setting, this method provided a good framework for the lexicographer. At the beginning of the 17th century, almost sixty years old, he took the decision to use as his basis the substantial and very popular Dictionarium Linguae Latinae et Anglicanae (1587), the Latin–English dictionary of Thomas Thomas (‘Thomasius’), the printer at Cambridge University. Wiliems translated the English definitions into Welsh, and as well as some additional entries, he added a large number of words to the definitions – from the standard language; colloquial words, including, for example, words associated with children’s language; obvious borrowings from English; as well as older medieval words. He also added information about subjects that were of particular interest to the Welsh reader and also information about subjects such as medicine and herbalism, which were of particular interest to him as a practising physician.

ree

There is no doubting the value of transcribing and editing the whole of Thomas Williams’s dictionary: he was not exaggerating when he described his work as y Trysawr ni bu ’rioet ei gyphelyp ynghymru o’r blaen (‘A treasury whose like has never before been seen in Wales.’) It is full of interesting information about Welsh life and culture, and also throws light upon the Welsh language at the turn of the 17th century, and aspects of the spoken language of Dyffryn Conwy in particular.


Contrary to expectations, I did not start with the letter A, mainly because Thomas Wiliems and Thomas Thomas were clearly trying to establish their working method in this early section, and there is quite considerable inconsistency in it (especially in terms of their use of abbreviations, etc.). So I started with B, H and T - one letter from each year Thomas Wiliems was at work, in order to get a good idea of both their methodologies.


The reader who wants to see Thomas Wiliems’s original entries can examine the manuscript images in the National Library of Wales’ Peniarth Digital Collection, using the unique identifiers given to each entry in the edition. For example, Habitatio’s unique identifier is [ii78r1], namely Peniarth 228, volume ii, folio 78 recto, first entry on the page.



Feedback

I would welcome any feedback, corrections, &c., as well as any advice on how ultimately to make the edition more accessible and useful for fellow researchers. At the moment the text is in Word files, formatted in such a way that it could be fairly easily converted into a different format.


Further reading

Ann Parry Owen, ‘Casglfa Ddirfawr o Eiriau Cymraeg, Henion a Newyddion’: Geiriadur Thomas Wiliems, Trefriw (c.1545–1622/3) yn LlGC Peniarth 228’, Llên Cymru (2024). There are references in this article to other important discussions of Thomas Wiliems’s dictionary, the most important of which is J. E. Caerwyn William’s monumental article in Studia Celtica, 16/17 (1981/2).

 
 
 

Updated: Sep 27, 2022

Wrth ailolygu geiriau yn cynnwys yr elfen buwch, bu a buch (i gyd yn golygu ‘buwch’) yn ddiweddar ar gyfer Geiriadur Prifysgol Cymru, deuthum ar draws criw difyr iawn o eiriau – buchfrech, buchfrechu, bufrechwr, gwrthfuchfrechwyr ac ati.


Bathwyd y gair buchfrechu yn y 19eg ganrif am ‘frechu (person) â brechlyn yn cynnwys firws brech y fuwch (er mwyn creu imiwnedd rhag y frech wen)’, sef ‘smallpox’. Roedd ymchwilio i hanes a defnydd y geiriau hyn llynedd, pan oedd y rhaglen frechu yn erbyn Covid 19 yn ei hanterth, yn ddifyr dros ben – o safbwynt y ddadl gymdeithasol yn ogystal â’r gofid am sgileffeithiau’r brechlyn ei hun.


Mae’r gair buchfrech neu brech y fuwch ei hun yn gyfieithiad o elfennau’r gair Saesneg cowpox (cowpog), a brech felly’n cyfeirio at y smotiau, y rash neu’r pox, sy’n ymddangos ar groen claf sy’n dioddef o’r afiechyd. Yn 1778, sylwodd Syr Edward Jenner fod pobl a oedd yn y gorffennol wedi dal cowpog neu frech y fuwch (sef afiechyd sy'n perthyn i’r frech wen ‘smallpox’, ond yn llai peryglus), yn datblygu imiwnedd rhag y frech wen, ac os oedden nhw yn ei ddal, roedden nhw’n llawer llai sâl ac felly’n fwy tebygol o oroesi. Dechreuodd Jenner arbrofi drwy roi brechlyn o frech y fuwch i bobl – vaccine yn Saesneg, a’r gair hwnnw’n dod o’r Lladin vaccinus sy’n golygu’n llythrennol ‘yn deillio o’r fuwch’. Felly ystyr vaccinate yn y cyfnod cynnar, fel buchfrechu yn Gymraeg, oedd rhoi brechlyn yn cynnwys firws brech y fuwch i berson. Gydag amser aeth vaccinate yn Saesneg i olygu rhoi unrhyw frechlyn i berson – ac yn y Gymraeg hepgorwyd yr elfen buch, ac aeth brechu, yn yr un modd i olygu rhoi brechlyn o unrhyw fath. Felly mae nifer ohonom wedi cael ein brechu rhag y ffliw neu rhag Covid 19.


O ran ei hanes, felly, ystyr sylfaenol brechu yw ‘rhoi brech’, sef rhoi rash neu pox i rywun. Ac yn y cyfnod cynnar, dyna’n union a wneid. Byddid yn casglu crawn y frech oddi ar groen claf, ac yn ei roi ar groen person iach, gan grafu drwy’r croen gyda chyllell neu ryw offeryn blaenllym er mwyn i’r firws fynd i mewn i’r gwaed.


Erbyn y 19eg ganrif, roedd pobl yn gyffredinol yn deall bod brechu trwch y boblogaeth (a phlant yn benodol) yn erbyn y frech wen yn lleihau achosion o’r salwch yn y gymdeithas, ac felly’n cadw lefel yr heintiadau i lawr. Ond yn hanner cyntaf y ganrif, gan nad oedd brechu’n orfodol, roedd nifer fawr yn gwrthod, – weithiau am resymau digon dilys (fel gofid am safon y brechlyn) ond gan amlaf oherwydd anwybodaeth a diffyg dealltwriaeth.


Er enghraifft, yn 1852 adroddwyd yn yr Eurgrawn Wesleaidd, xliv (1852), 44:

ree

Yn y flwyddyn ganlynol, ar 1 Awst 1853, pasiwyd deddf yn ei gwneud hi’n orfodol i bob plentyn dderbyn brechiad o frech y fuwch cyn cyrraedd ei 3 mis oed – ac roedd dirwy i rieni na gydymffurfiai. Gweinyddid y rhaglen ym mhob ardal gan swyddogion cyflogedig a elwid yn fuchfrechwyr cyhoeddus ‘public vaccinators’, ac âi’r rhain o dŷ i dŷ gan fynd â chyfreithwyr gyda nhw’n aml, rhag ofn y byddai pethau’n mynd o chwith ac y byddai’n rhaid wynebu achos llys.


Ond y farn gyffredinol ymysg y boblogaeth oedd bod derbyn brechiad yn beth da, a chydymffurfiau’r rhan fwyaf o rieni. Er enghraifft, adroddwyd yng nghofnodion a chyfansoddiadau yr Eisteddfod Genedlaethol, Wrecsam 1888:


‘y farn gyffredinol ydyw fod buchfrechiad yn rhag-atalydd gwerthfawr i’r frech wen, ac os ceir y frech ar ol i fuchfrechiad gymeryd lle, y bydd hi lawer yn ysgafnach na phe buasai buchfrechiad heb gymeryd lle.’


Roedd buddion y cynllun brechu yn amlwg. Ond o’r cychwyn cyntaf roedd gwrthwynebwyr: y gwrthfuchfrechwyr – yr ‘anti-vaxxers’ yn ein hiaith ni heddiw. Cynyddodd eu llais hwy wrth i’r ganrif fynd rhagddi, yn enwedig mewn rhai rhannau o’r wlad, ac o ganlyniad ychwanegwyd cymal at y ddeddf yn 1898 yn caniatáu i rieni wrthod y brechiad ar sail ‘gwrthwynebiad cydwybodol’, ond roedd angen cyflwyno achos ffurfiol mewn llys a derbyn tystysgrif eithrio. O ganlyniad ceir nifer o adroddiadau yn y papurau newydd am achosion llys lle pledwyd yr hawl i eithrio plant o’r rhaglen frechu.


Weithiau cyflwynid gwrthwynebiad cwbl rhesymol. Mae’n amlwg mai pryder gwirioneddol am ddiogelwch a safon y brechlyn ei hun oedd yn poeni dyn o Langollen, wrth iddo gyflwyno achos o’r fath yn 1901. Adroddwyd yn y Llangollen Advertiser, 15 Tachwedd:


‘caniataodd yr ynadon i ddyn gael ei ddymuniad ei hun … [a ch]ael peidio buwchfrechu ei blant. Ei reswm ef dros wrthod gwneyd oedd, am fod cymmaint o wenwyno gwaed plant drwy gael eu buwchfrechu.’


Mae’n amlwg fod yr achosion o wenwyno yn gyffredin. Dro arall roedd y gwrthwynebiad ar sail egwyddor rhyddid dewis, neu ar sail ofn. Mae rhai o’r gwrthwynebiadau yn ddigri – ac yn amlwg yn cael eu gwneud ar sail anwybodaeth lwyr, fel y canlynol, o’r Drych, 19 Awst 1919, papur newydd Cymraeg yn yr Unol Daleithiau:

ree

O bori drwy bapurau newydd y cyfnod, gwelir bod tipyn o gydymdeimlad â’r gwrthfuchfrechwr, yn enwedig gan ambell olygydd papur newydd, tra bod eraill yn ffyrnig yn eu herbyn. Nid oes dim amheuaeth i ba garfan y perthyn awdur y cofnod hwn yn y Llan, 12 Ebrill 1889:


‘Nos Wener, bu y gwrth-fuch-frechwyr (mae y term yn ddigon, bron, i hollti esgyrn gên Cymro) yn awyru eu cwynion yn Nhy y Cyffredin …’


Na dim amheuaeth ychwaith am farn yr awdur hwn yn Papur Pawb, 10 Awst 1895, sy’n lleisio sawl rhagfarn ar yr un gwynt:

ree

Dyna ddyfyniad i gnoi cil arno!


Mae’r erthyglau newydd ar y geiriau hyn bellach wedi eu cyhoeddi ar lein gan Eiriadur Prifysgol Cymru eleni; byddwn i’n eich annog hefyd i chwilio am enghreifftiau o'r geiriau ar Wefan Papurau Newydd y Llyfrgell Genedlaethol – cewch oriau o ddifyrrwch!

 
 
 

Croeso i chi gysylltu!

Diolch am gysylltu!

© 2023 gan Train of Thoughts. Wedi ei greu gyda Wix.com

bottom of page